*
*
 
 
*

*

Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys newyddion diweddaraf Cymru Yfory ag unrhyw straeon eraill sy’n berthnasol i’n nod ag amcanion. Byddwn hefyd yn nodi unrhyw ddigwyddiadau o ddiddordeb ag o berthnasedd i Lywodraethu Cymru.

Newyddion
Digwyddiadau

08.10.08
Cymru Yfory yn Croesawu Dadl ar Ymgyrch Ie
Wrth edrych tuag at y ddadl heddiw ar Ymgyrch Ie sydd wedi ei osod gan Peter Black AC, mae Cymru Yfory wedi croesawu’r ffaith fod y pwnc yn cael ei drafod gan Aelodau Cynulliad, ond yn dweud nad oes angen aros am Ymgyrch Ie cyn gwneud yr achos dros bŵerau cynradd. 

Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad:
 

“Er nad yw Rhan 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn mynd mor bell ag y dymunem, rydym yn credu’n frwd ei fod yn darparu gwelliant aruthrol ar y cytundeb presenol, ac yn llwyr gefnogi polisi llywodraeth Cymru’n Un i gynnal refferendwm erbyn 2011.”
 

“Os ydym am i’r refferendwm hwn lwyddo, ac os ydym am i’r wybodaeth anghywir sydd yn barod yn cael ei ledu gan elynion datganoli i beidio ag ennill y dydd, credwn ei bod hi’n hanfodol fod y rhai sydd yn gefnogol o senedd â phŵerau deddfu cynradd i Gymru yn dechrau dadlau eu hachos dros hynny ar unwaith.  Mae angen trafod pryd y dylid lawnsio Ymgyrch Ie, a sut y dylid ei sefydlu.  Fodd bynnag, nid yw absenoldeb presennol Ymgyrch Ie swyddogol yn atal y rhai sydd yn cefnogi datganoli pellach rhag dadlau o blaid hynny, gerbron y Confensiwn a’r cyhoedd. Rydym yn eu hannog yn gryf i wneud hynny.”
 

24.07.08
‘Pwerau Deddfu Cynradd’ i Gymru ar ôl Refferendwm
Mae’r trydydd mewn cyfres o bapurau briffio datganoli i gael ei gyhoeddi gan Cymru Yfory yn bwrw golwg ar natur y ‘pwerau deddfu cynradd’ a fyddai gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn pleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm. Mae’r papur ‘Pwerau Deddfu Cynradd’ i Gymru ar ôl Refferendwm yn tynny sylw at y gwahaniaethau rhwng y setliad presennol a beth sydd ar gynnig o dan Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ac yn edrych hefyd ar sut fyddai pwerau newydd y Cynulliad yn wahanol i’r pwerau sydd gan Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. 

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer trafodaeth gyfansoddiadol drwy’r Confensiwn Cymru-Gyfan, mae’r Papurau Briffio Datganoli yn edrych ar ystod o bynciau sy’n berthnasol i ddyfodol datganoli yng Nghymru gyda’r bwriad o gyfrannu at drafodaeth ddeallus. Mae papurau blaenorol yn y gyfres wedi edrych ar y gwahaniaethau rhwng Rhan 4 Deddf Llywodraeth Cymru ac argymhellion Comisiwn Richard, ac ar ‘fusnes anorffenedig’ datganoli a fydd yn parhau i’w ddatrys hyd yn oed ar ôl refferendwm llwyddiannus.
 

Meddai llefarydd ar ran Cymru Yfory:
 

“Mae yna botensial am ddryswch ynghylch union natur y pwerau a fydd gan y Cynulliad o dan Ran 4 y Ddeddf, gyda thermau fel ‘pwerau deddfu llawn’ a ‘Senedd fel yr Alban’ yn cael eu defnyddio heb i’w ystyron gael eu diffinio’n glir a heb i’r cyfyngiadau gael eu deall. Nod y papur hwn ydi gosod allan yn glir pa bwerau fyddai gan y Cynulliad o dan Ran 4, yr un mor bwysig, pa bwerau na fydd ganddo. Tra bo Cymru Yfory yn credu yn gryf y byddai rhoi pwerau deddfu cynradd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn gam cadarnhaol tu hwnt, credwn hefyd ei bod yn bwysig fod pobl yn deall y byddai Cymru’n parhau i fod a phwerau israddol o’i gymharu â’r Alban a Gogledd Iwerddon."
 

Gellir lawrlwytho’r tri phapur sydd wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn yn y gyfres Papurau Briffio Datganoli o wefan Cymru Yfory.  
 

12.05.08
Lansio gwefan newydd Confensiwn Cymru Gyfan
Lansiwyd gwefan newydd Confensiwn Cymru Gyfan gan y Brif Weinidog Rhodri Morgan, y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones a Chadeirydd y Confensiwn, Syr Emyr Jones Parry yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r Confensiwn hefyd wrthi'n edrych am bedwar aelod o'r cyhoedd i ymuno a phwyllgor gwaith y Confensiwn trwy gystadleuaeth agored. Yn ogystal a'r pedwar yma, bydd pedwar aelod yn cael eu penodi trwy wahodd y pedair prif blaid yng Nghymru i enwebu cynrychiolydd, ag wyth aelod yn cael eu penodi trwy enwebiadau gan sefydliadau allweddol yng Nghymru.  Y sefydliadau sydd wedi’u gwahodd i enwebu aelodau yw TUC Cymru; Cydffederasiwn Diwydiant Prydain; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru: Draig Ffynci; Fforwm Cymunedau Ffydd; Clybiau Ffermwyr Ifanc a Llais Merched.
 

07.05.08
Deddfwriaeth newydd hanesyddol wedi’i basio gan y Cynulliad

Cafodd hanes ei greu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yr wythnos hon pan basiwyd Mesur cyntaf erioed y Cynulliad, sef Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007. Bydd y Mesur yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gleifion hawlio iawndal pan mae triniaeth a ddarparwyd gan y GIG wedi bod yn esgeulus.  


Hwn yw’r deddfwriaeth sylfaenol gyntaf erioed i gael ei gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol, y gyfraith gyntaf i gael ei phasio yng Nghymru ers i Hywel Dda lunio cyfreithiau yn y ddegfed ganrif a’r gyfraith ddwyieithog gyntaf erioed i gael ei phasio ym Mhrydain.


Bydd y Mesur nawr yn cael ei gyflwyno i EM Y Frenhines i’w gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor. Unwaith y derbynnir Cymeradwyaeth Frenhinol, bydd y Mesur yn gyfraith yng Nghymru.


Dywedodd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Rwy’n falch fy mod wedi cadeirio’r drafodaeth gyntaf a gynhaliwyd yn ystod camau terfynol Mesur arfaethedig y Cynulliad a fy mod wedi goruchwylio pasio’r gyfraith gyntaf i gael ei gwneud yng Nghymru er dyddiau Hywel Dda. Mae’r ffaith bod hyn wedi digwydd cyn pen blwyddyn i Ddeddf Llywodraeth Cymru ddod yn gyfraith yn deyrnged i’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru a Senedd y DU - bu pob un ohonynt yn barod ac yn abl i ymateb i’r her o sicrhau bod y broses ddeddfu newydd yn gweithio.    

“Rwy’n falch gyda’r ffordd yr ydym wedi ymateb i’r heriau a wynebwyd yn sgil pwerau deddfu newydd Cyfansoddiad Cymru er mis Mai diwethaf. Rydym wedi gweld Mesurau yn cael eu cyflwyno, a chyfres o Orchmynion Deddfwriaethol arfaethedig, i ennill pwerau, gan Weinidogion Cymru a gan ACau unigol.”

(O wefan y Cynulliad)

 

07.05.08
Papurau Briffio Datganoli Cymru Yfory
Yn ystod y mis diwethaf, cyhoeddodd Cymru Yfory y ddau gyntaf mewn cyfres o Bapurau Briffio Datganoli. Nod y gyfres yw bwrw golwg dros ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i ddyfodol datganoli yng Nghymru, a hynny wrth i ni baratoi ar gyfer trafodaeth gyfansoddiadol drwy'r Confensiwn Cymru-Gyfan.

Roedd y papur cyntaf yn y gyfres, ‘
Argymhellion Comisiwn Richard a Deddf Llywodraeth Cymru 2006', yn edrych ar sut mae'r setliad presennol yn wahanol i'r hyn a argymhellwyd gan y Comisiwn Richard, ac oblygiadau'r methiant i weithredu argymhellion Richard i ddatganoli yng Nghymru.

Mae'r ail bapur, '
Cyfansoddiad Cymru: Ar Ôl Refferendwm, Beth Wedyn?', yn edrych ar y materion hynny a fydd yn parhau heb eu datrys, hyd yn oed os fydd y Cynulliad yn derbyn pwerau deddfu cynradd yn dilyn refferendwm. Mae'r materion sy'n cael eu trafod yn y papur yn cynnwys nifer yr ACau, rôl yr Ysgrifennydd Gwladol, awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, y system etholiadol, trefn ariannu'r Cynulliad a'r model o bwerau cynradd a ddefnyddir.

Byddwn yn cyhoeddi papurau pellach rhwng hyn a'r haf. Yn y cyfamser, buasem yn falch iawn o dderbyn adborth ar y papurau a gyhoeddwyd hyd yn hyn neu awgrymiadau am bynciau yr hoffech eu gweld yn cael sylw yn y dyfodol. Danfonwch eich sylwadau at
cymruyfory@stratamatrix.co.uk.  
 

10.04.08
Araith Archesgob Cymru: Confensiwn i'r Dyfodol? Y Ffordd Ymlaen i Ddemocratiaeth
Neithiwr traddododd Cadeirydd Cymru Yfory, Archesgob Cymru y Dr Barry Morgan, ddarlith gyhoeddus yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd. Mae'r ddarlith yn rhoi beiriniadaeth o'r setliad presennol, yn amlinellu gweledigaeth y mudiad ar gyfer dyfodol dataganoli yng Nghymru, a'i obeithion ar gyfer y Confensiwn Cymru-Gyfan.

Mae'r ddarlith nawr ar gael i'w lawrlwytho o wefan Cymru Yfory. Gallwch wneud hynny drwy glicio yma.

 

02.04.08
Cyfansoddiad Cymru: Ar ôl Refferendwm, Beth Nesaf?
Mae’r ail mewn cyfres o bapurau briffio ar ddatganoli sy’n cael eu cyhoeddi gan Cymru Yfory yn canolbwyntio ar ‘waith anorffenedig’ datganoli a fyddai’n dal angen mynd i’r afael ag o hyd yn oed ar ôl pleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm. 

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer trafodaeth gyfansoddiadol drwy’r Confensiwn Cymru-Gyfan, mae’r papurau briffio yn edrych ar ystod eang o bynciau perthnasol i ddyfodol datganoli yng Nghymru. 

Mae’r ail bapur, sy’n dwyn y teitl ‘Cyfansoddiad Cymru: Ar ol Refferendwm, Beth Nesaf?’, yn pwysleisio’r gwendidau fydd yn parhau hyd yn oed os gweithredir Rhan 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dilyn refferendwm.
 

Meddai llefarydd ar ran Cymru Yfory: “Byddai gweithredu Rhan 4 yn golygu fod yna yn dal i fod ‘waith anorffenedig’ - a bydd angen edrych ar y materion hyn yn hwyr neu hwyrach. Nid ydym yn credu fod Rhan 4 yn darparu setliad sefydlog, parhaol ddim mwy nag y mae Rhan 3, sef y rhan sydd mewn grym ar hyn o bryd. Tra fo lladmeryddion Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn honni y bydd yn setlo cyfansoddiad Cymru am genhedlaeth, mewn gwirionedd mae’n gadael nifer o broblemau mawrion heb eu datrys."
 

Cafodd nifer o’r materion hyn eu trin gan Adroddiad Richard a gyhoeddwyd yng Ngwanwyn 2004, ac a oedd yn darparu cynllun cynhwysfawr ac unedig ar gyfer setliad datganoli hirdymor i Gymru. Mewn nifer o achosion, y methiant i weithredu’r argymhellion yma yn llawn drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sydd yn gyfrifol am y gwaith sydd ar ôl i’w wneud. Golyga hyn bydd Deddf Llywodraeth Cymru arall yn angenrheidiol yn y dyfodol agos, beth bynnag fo canlyniad y refferendwm. 

Mae’r materion yma yn cynnwys:
 

·         Nifer yr ACau: Mae Deddf 2006 yn gadael nifer yr Aelodau Cynulliad fel 60, ac nid oes mecanwaith o fewn y ddeddf ar gyfer cynyddu’r nifer er mwyn adlewyrchu cyfrifoldebau ychwanegol y Cynulliad. Ychydig o aelodau sydd gan y Cynulliad o’i gymharu â chyrff tebyg, gan gynnwys y rhai yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, ac argymhellodd y Comisiwn Richard y dylid cael 80 AC mewn Cynulliad deddfwriaethol.

·        
Rôl yr Ysgrifennydd Gwladol: O Dan Ddeddf 2006, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn parhau â’r hawl i fynychu a siarad yng nghyfarfodydd y Cynulliad ac i dderbyn yr holl bapurau a dogfennau. Nid oes gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban hawliau tebyg mewn perthynas â’r Senedd yno. Unwaith bydd datganoli deddfwriaethol wedi digwydd, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros y fath freintiau, a allai gael eu defnyddio gan lywodraeth elyniaethus yn Llundain i ymyrryd mewn materion datganoledig.

·        
Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân i Gymru: Wrth i Gymru ddefnyddio ei phwerau i wneud pethau gwahanol o’i gymharu â Lloegr, bydd casgliad o ddeddfau unigryw Cymreig yn cael ei adeiladu ac fe ddaw yn gynyddol anodd i weithredu awdurdodaeth gyfreithiol sengl ar gyfer Cymru a Lloegr. Byddai creu awdurdodaeth ar wahân ar gyfer Cymru, fel sydd eisoes yn bodoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn datrys y broblem hon. 

Pynciau eraill sy’n cael eu trafod yn y papur yw’r system etholiadol, sut mae ariannu’r Cynulliad, a’r model o bwerau deddfwriaethol sy’n cael ei ddefnyddio.
 

02.04.08
Confensiwn ar gyfer y Dyfodol? Y Ffordd Ymlaen i Ddemocratiaeth Gymreig.
Ar 9 Ebrill 2008 bydd Cadeirydd Cymru Yfory y Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn traddodi darlith gyhoeddus yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd ar y teitl Confensiwn ar gyfer y Dyfodol? Y Ffordd Ymlaen i Ddemocratiaeth Gymreig.

Bydd y ddarlith yn dechrau am 6.00pm, gyda derbyniad o flaen llaw am 5.15pm.

Byddwch cystal a hysbysu yr Ysgol Gyfraith o'ch bwriad i fynychu drwy gysylltu a John Ryder ar
Law-lectures@cardiff.ac.uk. Mae gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys map, ar gael yma
 

20.03.08
Cyhoeddi'r Papur Briffio ar Ddatganoli Cyntaf
Heddiw mae Cymru Yfory wedi cyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres newydd o bapurau briffio ar ddatganoli. 

Yn dwyn y teitl ‘
Argymhellion Comisiwn Richard a Deddf Llywodraeth Cymru 2006’, hwn yw’r cyntaf mewn cyfres fydd yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau a misoedd nesaf wrth i Gymru baratoi ar gyfer trafodaeth gyfansoddiadol gyda sefydlu’r Confensiwn Cymru-Gyfan. Bydd y papurau yn edrych ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud a datganoli yng Nghymru. 

Sefydlwyd Cymru Yfory yn 2004 fel mudiad trawsbleidiol a thraws-sector i ymgyrchu dros weithredu argymhellion y Comisiwn Richard a gyhoeddwyd yng ngwanwyn y flwyddyn honno. Mae’r papur cyntaf yma felly yn edrych ar sut mae’r setliad presennol yn gwahaniaethu oddi wrth yr hyn a awgrymwyd gan Richard, ac oblygiadau’r methiant i weithredu’r argymhellion hyn ar gyfer datganoli yng Nghymru. 

Bydd y papur nesaf yn y gyfres, i’w gyhoeddi yr wythnos nesaf, yn edrych ar y ‘gwaith anorffenedig’, a’r materion fydd yn parhau i’w datrys, hyd yn oed ar os gweithredir Rhan 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dilyn refferendwm llwyddiannus.   
 

20.03.08
Cyhoeddi'r Papur Briffio ar Ddatganoli Cyntaf
Heddiw mae Cymru Yfory wedi cyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres newydd o bapurau briffio ar ddatganoli. 

Yn dwyn y teitl ‘
Argymhellion Comisiwn Richard a Deddf Llywodraeth Cymru 2006’, hwn yw’r cyntaf mewn cyfres fydd yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau a misoedd nesaf wrth i Gymru baratoi ar gyfer trafodaeth gyfansoddiadol gyda sefydlu’r Confensiwn Cymru-Gyfan. Bydd y papurau yn edrych ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud a datganoli yng Nghymru. 

Sefydlwyd Cymru Yfory yn 2004 fel mudiad trawsbleidiol a thraws-sector i ymgyrchu dros weithredu argymhellion y Comisiwn Richard a gyhoeddwyd yng ngwanwyn y flwyddyn honno. Mae’r papur cyntaf yma felly yn edrych ar sut mae’r setliad presennol yn gwahaniaethu oddi wrth yr hyn a awgrymwyd gan Richard, ac oblygiadau’r methiant i weithredu’r argymhellion hyn ar gyfer datganoli yng Nghymru. 

Bydd y papur nesaf yn y gyfres, i’w gyhoeddi yr wythnos nesaf, yn edrych ar y ‘gwaith anorffenedig’, a’r materion fydd yn parhau i’w datrys, hyd yn oed ar os gweithredir Rhan 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dilyn refferendwm llwyddiannus.   
 

29.02.08
O Gynulliad i Senedd: Y Confensiwn a'r Daith tuag at Bwerau
Yn ystod mis Ebrill eleni, bydd Cymru Yfory a'r Sefydliad Materion Cymreig yn cyd-gynnal cyfres o gynadleddau hanner-diwrnod fydd yn edrych ymlaen tuag at lansiad y Confensiwn Cymru-Gyfan ac ar oblygiadau symyd tuag at ddatganoli pwerau deddfu pellach.

Bydd y cynadleddau, sy'n dwyn y teitl O Gynulliad i Senedd: Y Confensiwn a'r Daith tuag at Bwerau Cynradd ac yn cael eu cynnal yn Wrecsam, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd, yn rhoi cyfle i drafod y pynciau y mae angen i Syr Emyr Jones Parry a'r Confensiwn eu cysidro os yw ymrwymiad Cymru'n Un i gynnal refferendwm erbyn 2011 i gael ei wireddu a phleidlais Ie i'w sicrhau.

Mae gan y pedair cynhadledd fel ei gilydd raglen siaradwyr o'r radd flaenaf, gan gynnwys Syr Emyr Jones Parry ei hun yn nigwyddiad Caerdydd. Bydd y cynadleddau hefyd yn darparu cyfle i'r rhai sy'n mynychu i drafod gyda ACau ac ASau y pynciau maent yn eu hystyried i fod o'r pwys mwyaf wrth i Gymru gymryd y cam nesaf yn y broses ddatganoli.

Dydd Gwener 4 Ebrill 2008, Wrecsam
Siaradwyr: Meri Huws (Cadeirydd), Ian Lucas AS, Yr Athro Laura McAllister, Aled Roberts
Cliciwch yma am raglen lawn

Dydd Gwener 11 Ebrill 2008, Caerfyrddin
Siaradwyr: Cynog Dafis (Cadeirydd), Adam Price AS, John Osmond, Emyr Lewis
Cliciwch yma am raglen lawn

Dydd Llun 14 Ebrill 2008, Aberystwyth
Siaradwyr: Cynog Dafis (Cadeirydd), Alun Davies AC, Yr Arglwydd Elsytan Morgan, Yr Athro Roger Scully
Cliciwch yma am raglen lawn

Dydd Mawrth 29 Ebrill 2008, Caerdydd
Siaradwyr: Archesgob Cymru (Cadeirydd), Syr Emyr Jones Parry, John Osmond, Yr Athro Laura McAllister, Helen Mary Jones AC, Alun Davies AC, Mike German AC, Glyn Davies, Emyr Lewis
Cliciwch yma am raglen lawn


Sicrhau eich lle
I sicrhau eich lle, lawrlwythwch y ffurflen archebu a'i dychwelyd i'r cyfeiriad ar y gwaelod o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad rydych am ei fynychu. Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly sicrhewch eich lle yn gynnar i osgoi cael siom.
 

11.02.08
Seminar: Egwyddorion Deddfwriaeth, 5 Mawrth 2008
* Sut ddylai’r rhai sy’n deddfu gadw cyd-bwysedd rhwng deddfwriaeth gynradd ac eilradd? 

* Ym mha amgylchiadau ddylai’r pŵer i wneud cyfreithiau gael eu trosglwyddo i’r Llywodraeth, ac a oes mathau o b
ŵerau na ddylid eu trosglwyddo?

* Sut ddylai’r rhai sy’n deddfu graffu’n effeithiol ar y materion hyn?
 

Dyma rai o'r cwestiynnau fydd yn cael eu trafod mewn Seminar sy'n cael ei gynnal ar y cyd gan Cymru Yfory a Cymdeithas y Cyfreithwyr ar y 5ed o Fawrth eleni.

Y siaradwyr fydd Alan Trench (Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caeredin), Yr Athro Keith Patchett (Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd) a Kay Powell (Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru) gyda Geraint Talfan Davies yn Cadeirio. Wedi'r cyflwyniadau bydd sesiwn drafod gyda cyfle i'r gynulleidfa holi cwestiwynnau.

Noddir y digwyddiad gan Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.

Cynhelir y Seminar yn Ystafell Briffio'r Cyfryngau yn Adeilad y Senedd, Bae Caerdydd am 18.00y.h ar y 5ed o Fawrth 2008.

Os ydych yn bwriadu dod, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda drwy ebostio cymruyfory@stratamatrix.co.uk gan nodi unrhyw anghenion bwyd arbennig.

Cliciwch yma i weld hysbyseb ar gyfer y digwyddiad.
 

*

07.02.08
Achlysur hanesyddol arall yn hanes gyfansoddiadol Cymru

Mae’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol drafft cyntaf, ym maes anghenion dysgu ychwanegol, wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad.


Bydd hysbysiad ysgrifenedig bod y Gorchymyn drafft wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad yn awr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedyn naill ai’n gosod y Gorchymyn drafft gerbron y naill Dy’r Senedd a’r llall, neu’n rhoi rhybudd ysgrifenedig i Brif Weinidog Cymru yn dweud ei fod yn gwrthod gwneud hynny a’r rhesymau pam. Os yw’r Gorchymyn drafft yn cael ei osod gerbron Senedd y Deyrnas Unedig bydd trafodaeth arno gan ddau Dy’r Senedd.   Os caiff ei gymeradwyo gan y ddau Dy bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei argymell i gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.


Unwaith y bo’n cael ei gymeradwyo, byddai cymhwysedd deddfwriaethol pellach yn cael ei roi i’r Cynulliad ym Maes 5 (Addysg a Hyfforddiant) o fewn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.    Byddai’r Cynulliad wedyn â’r grym i wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes addysg a hyfforddiant ar gyfer personau gydag anghenion dysgu ychwanegol.

(o wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru)

 

05.02.08
Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthod cefnogi refferendwm ar ddiwrnod etholiad
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mike German, wedi datgan cefnogaeth ei blaid tuag at bleidlais 'Ie' mewn unrhyw refferendwm ar bwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru - heblaw fod y refferendwm hon yn cymryd lle ar yr un diwrnod ag Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2011.

Yn ol Mr German, 'mae'n glir i mi mai cynnal refferendwm ar yr un diwrnod a'r etholiad yw'r ffordd waethaf ymlaen i Gymru. Fyddai pleidleiswyr yn gweld pleidiau yn ymgyrchu ar y cyd am fwy o bwerau, tra'n ymosod ar eu gilydd ar bob mater arall.'

Cred Mr German yw bod cydweithrediad trawsbleidiol yn agwedd allweddol o sicrhau pleidlais 'Ie'. Ond, mae'n honni nad yw'r glymblaid Llafur/Plaid Cymru yn credu hyn i'r un raddau, wrth i'r ddwy blaid wrthod mynychu cyfarfod cynnar yr oedd Mr German yn awyddus i'w drefnu. Roedd Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr, eisioes wedi cefnogi'r syniad. Er hyn, barn y Prif Weinidog Rhodri Morgan oedd y byddai cyfarfod o'r fath yn fwy addas ar ol i grwp llywio Confensiwn Cymru-Gyfan orffen ei waith.  

Yn ol Mr German, 'does dim amser i'w golli wrth gosod y seiliau ar gyfer ymgyrch 'Ie'. Byddaf yn pwysleisio hyn unwaith eto cyn gynted ag y bydd y grwp llywio wedi cwblhau ei waith.'

 

31.01.08
Cyfnod un Mesur cyntaf y Cynulliad yn dod i ben
Daeth cyfnod un Mesur cyntaf y Cynulliad i ben yr wythnos hon, wrth i'r aelodau gytuno ar egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007 yn y Cyfarfod Llawn. Bydd cyfnod dau, a fydd yn gweld y Cynulliad yn craffu ar y mesur yn fwy manwl, yn cychwyn ar unwaith.
 

02.01.08
Neges Calan 2008

Mae Cymru Yfory, corff annibynnol a chanddo sylfaen eang o gefnogaeth, yn cyhoeddi’r datganiad hwn, gan ailbwysleisio ei ymrwymiad i sicrhau dull o lywodraeth i Gymru sy’n ddemocrataidd, yn gyfrifol ac atebol i bobl Cymru.

Yn ystod 2008, bydd Confensiwn cenedlaethol, wedi’i gadeirio gan Syr Emyr Jones Parry, yn dechrau ar ei waith. Fe’i sefydlwyd o dan gytundeb clymblaid Cymru’n Un i baratoi ar gyfer refferendwm ar roi pwerau deddfu pellach i Gymru, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae Cymru Yfory yn awyddus i gydweithio â’r Confensiwn ac i barhau ei waith gyda chymdeithas suful drwy Gymru benbaladr wrth adeiladu fframwaith ddemocrataidd, gyfrifol ac atebol ar gyfer llywodraethu Cymru, ble mae’r rhaniad pwerau rhwng San Steffan a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn glir a thryloyw.

Yn sgil y datblygiad hanesyddol yma mae Cymru Yfory yn:

• croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru’n Un i refferendwm er mwyn dwyn i rym y pwerau deddfu cynradd a osodwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006;

• galw ar y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddynt i’w dichonoldeb eithaf  yn ogystal â gwneud popeth posibl i gaffael yr ystod cynhwysfawr o bwerau deddfwriaethol a fydd o help i wella bywydau pobl Cymru, gan ystyried datblygiadau drwy’r Deyrnas Gyfunol yn gyfan;

• annog y Cynulliad Cenedlaethol i hysbysu’n rheolaidd gymdeithas suful drwy Gymru am y camau a gymerodd, ac am unrhyw rwystrau a gafodd, wrth sicrhau defnydd llawn o’r Ddeddf newydd;

• croesawu sefydlu’r Confensiwn, i’w gadeirio gan Syr Emyr Jones Parry, ac yn galw arno i ymgynhori’n helaeth â chymdeithas suful drwy Gymru er mwyn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r materion perthnasol a sut i ehangu cefnogaeth am fframwaith ddedfwriaethol mwy tryloyw sy’n ateb gofynion Cymru yn yr 21fed ganrif.

Bydd Cymru Yfory ei hun yn trefnu cyfres o sesiynau ymgynghori/seminarau yn ystod 2008, gan dynnu ar Adroddiad Richard yn gyfeirbwynt. Fe fydd hefyd yn monitro’n fanwl ac yn sylwebu ar weithrediad y trefniadau deddfwriaethol sydd ar hyn o bryd yn dod i rym, er mwyn sicrhau y defnyddir nhw yn effeithiol, yn unol ag egwyddorion sefydledig llywodraeth gynrychioliadol, a chan barchu ymreolaeth y Cynulliad Cenedlaethol wrth gyflawni’r cyfrifoldebau a roddwyd o dan y Ddeddf.

Rydyn ni’n gwahodd pawb sy’n cymeradwyo barn a bwriadau Cymru Yfory yn unol â’r uchod i ddatgan eu cefnogaeth.

Cymru Yfory

Fe sefydlwyd Cymru Yfory yn 2004 i annog cefnogaeth i brif yriant Comsiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol. Ei gadeirydd yw Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Ddr Barry Morgan. Ers 2004 mae’r mudiad wedi ymroi i gadw argymhellion Richard ar yr agenda wleidyddol. Mae hefyd wedi llwyddo i ymgysylltu â a hysbysu cymdeithas suful ynghylch newid cyfansoddiadol yng Nghymru a’r cyfleoedd ar gyfer ymwneud â llywodraeth a’r Cynulliad Cenelaethol o dan y pwerau a roddwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

21.12.07
Grŵp llywio'r Confensiwn Cymru-Gyfan yn cwrdd am y tro cyntaf
Bu’r grŵp sydd â’r cyfrifoldeb o lunio rhaglen waith a chylch gorchwyl ar gyfer y Confensiwn yn cyfarfod yn San Steffan yr wythnos hon. Tasg gyntaf yr aelodau oedd ethol Helen Mary Jones AC o Blaid Cymru a Nick Ainger AS o’r Blaid Lafur fel cyd-gadeiryddion. Yr Aelodau Seneddol Nia Griffith, Jessica Morden a Ian Lucas, a’r Aelodau Cynulliad Lynne Neagle, Alun Davies, Christine Chapman a Jeff Cuthbert sy’n cynrychioli’r Blaid Lafur. Aelodau’r grŵp dros Blaid Cymru yw’r Aelodau Cynulliad Alun Ffred Jones, Dai Lloyd a Nerys Evans, yr Aelodau Seneddol Elfyn Llwyd, Hywel Williams ag Adam Price, yn ogystal â’r cyn-Aelod Seneddol a Cynulliad Cynog Dafis. Mae disgwyl i’r Confensiwn, a fydd yn cael ei gadeirio gan gyn-lysgennad y DU i’r Cenhedloedd Unedig Syr Emyr Jones Parry, ddechrau ar ei waith ym mis Mehefin.
 

01.11.07
Cymru Yfory yn galw am Gonfensiwn all ‘wneud y gorau dros Gymru’
Mae Cymru Yfory yn croesawu’r ffaith fod y llywodraeth glymblaid Llafur – Plaid Cymru wedi cymryd y cam cyntaf at wireddu ei hymrwymiad i sefydlu Confensiwn Cymru-Gyfan drwy gyhoeddi mai’r Cadeirydd fydd Syr Emyr Jones-Parry. Fodd bynnag, mae’r mudiad - a sefydlwyd yn 2004 i ymgyrchu dros wireddu argymhellion y Comisiwn Richard - yn galw ar i’r Confensiwn gynnwys cynrychiolaeth eang o’r gymdeithas Gymreig, ac i gael cylch gorchwyl eang, os yw am wireddu ei bwrpas. 

Mae llawer o argymhellion Adroddiad Richard – a wnaethpwyd yn dilyn broses drylwyr o ymgynghori a chasglu tystiolaeth – yn parhau heb eu gweithredu. Mae’r rhain yn cynnwys cynnig i gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad i wyth deg – cynnig sy’n ennyn cefnogateh gynyddol wrth i lwyth gwaith y Cynulliad gynyddu ac i ACau ei chanfod hi’n gynyddol anodd i weithredu eu holl swyddogaethau’n effeithiol. Awgrymodd Comisiwn Richard hefyd y dylid hefyd edrych eto ar system etholiadol y Cynulliad ac y byddai pwerau i godi trethi yn fuddiol i Senedd ddeddfwriaethol. Mae Cymru Yfory yn credu mai nawr yw’r amser cywir i ail-edrych ar y cwestiynau hyn, ac mai’r Confensiwn Cymru-Gyfan yw’r corff cywir i wneud y gwaith, cyn belled fod ganddo aelodaeth eang sy’n gynrychioladol o gymdeithas Cymru.
 

Mae Cymru Yfory felly yn galw ar i Syr Emyr Jones-Parry, Llywodraeth y Cynulliad, a’r ASau ac ACau hynny sydd ynghlwm a’r broses o sefydlu’r Confensiwn i beidio a gwastraffu’r cyfle hanesyddol hwn, ac iddynt sefydlu Confensiwn sydd yn eang ei gylch gwaith fel y gallwn gael y drafodaeth gyfansoddiadol y mae Cymru ei hangen er mwyn sefydlu trefn ddatganoledig sefydlog.
 

Meddai Cadeirydd Cymru Yfory, Y Gwir Barchedig Ddr Barry Morgan, Archesgob Cymru:
 

“Yn naturiol, mae Cymru Yfory yn croesawu’r ffaith fod y llywodraeth glymblaid ym mynd ati i wireddu’r ymrwymiad a wnaethpwyd yn ‘Cymru’n Un’ i sefydlu Confensiwn Cymru-Gyfan. Ond i’r confensiwn fod yn llwyddiant, rydym yn credu fod rhaid iddo gynnwys pob rhan o gymdeithas sifig Gymreig er mwyn sicrhau y caiff pob barn ei llafar. Ymhellach, credwn ei bod yn hanfodol fod cylch gorchwyl y Confensiwn yn ei alluogi i fynd tu hwnt i ffiniau Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ac edrych eto ar bynciau fel pwerau’r Cynulliad, nifer yr aelodau a’r drefn etholiadol. Gwnaeth y Comisiwn Richard argymhellion ar y materion hyn sydd eto heb eu gweithredu: rôl y Confensiwn ddylai fod edrych eto ar y cwestiwynau hyn yn sgil datblygiadau diweddar er mwyn sicrhau fod gan Gymru y drefn lywodraethol orau posib.”
 

Aeth yn ei flaen:
 

“Credwn yn gryf y byddai symyd ymlaen o dan dermau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 heb edrych ar opsiynau eraill yn golygu methu cyfle hanesyddol i sicrhau setliad sefydlog i Gymru wedi ei selio ar gonsensws traws-bleidiol a thraws-sector. Os yw am gael dylanwad yn yr hir dymor, mae’n rhaid i’r Confensiwn wneud yr hyn sydd orau i Gymru, nid yr hyn sydd yn wleidyddol gyfleus i Lafur a Phlaid Cymru. Golyga hyn edrych ar faterion fel nifer yr aelodau, y system etholiadol a phwerau codi trethi.”
 

03.09.07
Y Cynulliad eisioes yn ymestyn ei bwerau

Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ail-ymgynull ymhen pythefnos, un o swyddogaethau cynta ACau fydd craffu ar dri Gorchymyn Cymhwysedd Deddwriaethol (GCD) sydd eisioes wedi eu gosod gerbron.

Mae'r GCD yn ddull a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llywodraeth cymru 2006 ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb deddfwriaethol dros faterion penodol o'r Senedd yn San Steffan i'r Cynulliad Cenedlaethol. Gwneir hyn drwy ychwanegu at y rhestr o faterion ym meysydd Atodlen 5 y Ddeddf, sydd yn nodi cymhwysderau y Cynulliad mewn ugain o feysydd polisi. Nid yw GDC ynddo'i hun yn cyflwyno deddfwriaeth i Gymru; yn hytrach, mae'n rhoi modd i'r Cynulliad gyflwyno deddfwriaeth o fewn y terfynau cyfreithiol a nodir gan y GCD.

Tra gal GCD gael ei gyflwyno gan Lywodraeth y Cynulliad, Pwyllgorau'r Cynulliad neu ACau unigol, mae'r tri sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd wedi eu cyflwyno gan y Llywodraeth.

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2007 (ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol)

Dyma'r GCD cyntaf erioed i gael ei osod gerbron y Cynulliad, a bydd yn rhoi'r pwer i'r Cynulliad allu deddfu ar fater anghenion dysgu ychwanegol. Gallwch ddarllen y GCD arfaethiedig a nodyn esboniadol yma.

Mae'n rhaid i bob GCD fynd drwy broses o graffu gan bwyllgor arbennig, a fe gyfarfu'r Pwyllgor ar y Gorchymyn ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol am y tro cyntaf ar 12 Gorffennaf 2007.

Mae'r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y GCD, a gwahodd sylwadau gan y cyhoedd ar egwyddor a chynwys y GCD. Rhaid ymateb erbyn dydd Gwener 21 Medi. Cliciwch yma am fwy o fanylion ar sut i gyfrannu.

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 2) 2007 (ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff)

Bydd y GDC yma yn caniatau i'r Cynulliad ddeddfu ar faterion diogelu'r amgylchedd a rheoli gwastraff. Gallwch ddarllen y Gorchymyn arfaethiedig a nodyn esboniadol yma.

Sefydlwyd Pwyllgor i graffu ar y Gorchymyn hwn ym mis Gorffennaf wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y GCD, a gwahodd sylwadau gan y cyhoedd ar egwyddor a chynwys y GCD. Rhaid ymateb erbyn dydd Gwener 21 Medi. Cliciwch yma am fwy o fanylion ar sut i gyfrannu.

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007 (ynghylch Plant Hawdd eu Niweidio a Thlodi Plant )

Mae'r GCD yma yn llydan iawn ei ystod ac yn cynnwys trosglwyddo pwerau dros fabwysiadu a maethu i'r Cynulliad. Gallai'r ffaith fod gymaint o bwer yn cael ei drosglwyddo gan y Gorchymyn wneud ei daith drwy San Steffan yn un ddiddorol.

Bydd Pwyllgor yn cael ei sefydlu gan y Cynulliad yn y dyfodol agos i graffu ar y GCD arfaethiedig. Yn y cyfamser, gellir darllen y Gorchymyn a nodyn esboniadol yma.
 

31.05.07
Cymru Yfory yn cyfrannu i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig
Mae Cymru Yfory wedi cyfrannu i ymchwiliad Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ar y broses Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor. Gellir dod o hyd i'r memorandum a gyflwynwyd ar ran y Gweithgor yma. Mae cofnod llawn o'r cyfarfod ar gael yma.

Disgwylir cyhoeddiad adroddiad y Pwyllgor ar ddydd Mawrth 5ed o Fehefin.
 

01.11.06
Sir Jeremy Beecham i Annerch Cynhadledd Cymru Yfory

Rydym yn hapus i gyhoeddi bod Sir Jeremy Beecham bellach wedi cytuno i annerch Cynhadledd Cymru Yfory "Yfory'r Cynulliad" ar yr 20fed o Dachwedd 2006 yng Nghanolfan Gynhadledd Prifysgol Caerdydd, Penylan.

Mae'r rhestr o siaradwyr gwadd bellach yn cynnwys
* Llywydd y Cynulliad yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC;
* Awdur Adroddiad "Beyond Boundaries" Sir Jeremy Beecham;
* Is-weinidog Seneddol Cymru Nick Ainger AS;
* Gweinidog Busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru Jane Hutt AC;
* Cadeirydd Pwyllgor Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol Jenny Randerson AC.
* Cymrawd Ymchwil Ysgol Gyfraith Caerdydd David Lambert a'i Brif Ymchwilydd Marie Navarro.

Yn ystod y prynhawn fe fydd hefyd gyfle i drafod effaith Deddf Cymru yn ôl themâu penodol o fewn grwpiau llai.

Cliciwch yma am y manylion diweddaraf ar raglen y dydd ac i lawr-lwytho'r ffurflen gofrestru.

Os ydych chi am ddeall pwerau’r Cynulliad wedi Mai 2007, newidiadau mewn cyfrifoldebau, strwythurau a gweithdrefnau newydd y Cynulliad, ac effaith bosibl rhain ar eich sector a’ch sefydliad, yna mi fydd y gynhadledd o ddiddordeb i chi.

Cost y gynhadledd yw £75 (£55 gostyngedig)

Dim ond ffurflenni cyflawn a fydd yn sicrhau mynediad i'r Gynhadledd - nid yw datganiadau o ddiddordeb blaenorol yn ddilys.

 

20.10.06
Cynhadledd Cymru Yfory: ‘Yfory’r Cynulliad'
Mae manylion y rhaglen a'r ffurflen gofrestru ar gyfer cynhadledd 'Yfory'r Cynulliad' Cymru Yfory nawr ar gael arlein. 
I’w gynnal yng Nghaerdydd ar yr 20fed o Dachwedd, mae’r rhestr o siaradwyr allweddol yn cynnwys Llywydd y Cynulliad yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Is-weinidog Seneddol Cymru Nick Ainger AS, Gweinidog Busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru Jane Hutt AC a Jenny Randerson AC, Cadeirydd Pwyllgor Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ystod y prynhawn fe fydd hefyd gyfle i drafod effaith Deddf Cymru yn ôl themâu penodol o fewn grwpiau llai.


Os ydych chi am ddeall pwerau’r Cynulliad wedi Mai 2007, newidiadau mewn cyfrifoldebau, strwythurau a gweithdrefnau newydd y Cynulliad, ac effaith bosibl rhain ar eich sector a’ch sefydliad, yna mi fydd y gynhadledd o ddiddordeb i chi.

I weld y dogfennau hyn cliciwch yma. 

Cost y gynhadledd yw £75 (£55 gostyngedig)

Dim ond ffurflenni cyflawn a fydd yn sicrhau mynediad i'r Gynhadledd - nid yw datganiadau o ddiddordeb blaenorol yn ddilys.
 

17.10.06
Yfory’r Cynulliad : The Emerging Assembly

Cynhadledd Cymru Yfory: Tachwedd 20 2006

Beth?
Cynhadledd un-dydd “Yfory’r Cynulliad” yng Nghanolfan Gynhadledd Prifysgol Caerdydd, Penylan. 

Pryd?
20fed o Dachwedd, 2006.  

Pam?
Cynhadledd undydd yn cynnwys cyfraniadau gan academyddion, gwleidyddion a chyfle i’r sawl sy’n mynychu i rannu cwestiynau, a thrafod cyfleoedd, gobeithion a gofidion mewn grwpiau pwnc wrth i ni wynebu cyfnod hynod gyffroes ag allweddol yn hanes datganoli yng Nghymru.  

I bwy?
Pawb sy’n ymwneud â, neu sy’n diddori mewn gwleidyddiaeth a llywodraethiant Cymreig. Bydd yn gyfle i ddysgu mwy ynglŷn â phwerau’r Cynulliad wedi Mai 2007, y gweithdrefnau newydd, a swyddogaeth San Steffan yn y system lywodraethu newydd.   

Cofrestru?
Gallwch gofrestru diddordeb yn y gynhadledd nawr trwy gysylltu â
cymruyfory@stratamatrix.co.uk. Manylion pellach i ddilyn.   

Pob croeso i chi ddanfon y wybodaeth hon ymlaen at unrhywun arall allai fod â diddordeb.

 

17.10.06
Cymru Yfory yn Cyfrannu at Tystiolaeth y Pwyllgor Rheolau Sefydlog
Mae Cymru Yfory wedi cyfrannu at sesiwn casglu tystiolaeth Pwyllgor Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Darllenwch ein papur yma, a gyflwynwyd fel rhan o dystiolaeth David Lambert a Marie Navarro, o Ysgol y Gyfraith, Caerdydd.

Mae trawsgrifiad y cyfarfod ar gael i ddarllen yma.

 

09.08.06
Trefn Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor

Mae David Lambert a Marie Navarro o Ysgol y Gyfraith, Caerdydd wedi creu papur sy’n esbonio’r drefn debygol ar gyfer Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor.

Mi fydd y broses yn effeithio ar ddeddfu yng Nghymru yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym Mai 2007 wedi ymddeddfiad Deddf Cymru 2006.

Darllen: Trefn Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor

 

27.07.06
Ymateb Cymru Yfory i Ddeddf Cymru 2006

Heddiw, croesawodd Cymru Yfory’n pasio Mesur Cymru fel carreg filltir bwysig yn yr ymgyrch i sicrhau pwerau deddfu llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gweithiodd y mudiad yn agos gyda nifer o Arglwyddi wrth i'r mesur fynd ar ei daith drwy'r senedd gan bwysleisio yr angen am setliad sy'n sicrhau cyfraniad pobl Cymru i'r broses o ddatblygu polisi, yn dryloyw ac yn sgriwtineiddio deddfwriaeth yn effeithiol er lles Cymru.

Nododd y Parch.Ddr Barry Morgan, Archesgob Cymru:
"Prif amcan Cymru Yfory yw hyrwyddo gwerthoedd ag argymhellion adroddiad Comisiwn Richard - sef bod Cymru yn haeddu ag angen pwerau deddfu cynradd. Mae'r amser i baratoi i weithredu rhan 3 o Ddeddf Cymru yn brin. Mae 12 aelod newydd wedi ymuno a gweithgor ein mudiad ac rydym yn cydnabod bod angen newid y ffocws o'r broses seneddol I hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o nature strwythurau llywodraethu newydd Cymru ar hyd a lled ein gwlad."

Bydd y pwyslais yn troi yn awr tuag at annog aelodau'r Cynulliad, y cyhoedd a chymdeithas sifig i wneud defnydd effeithiol a chreadigol o'r pwerau newydd a sicrhau pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad cyn gynted ag sy'n bosibl.

Bydd Cymru Yfory nawr yn ymgyrchu dros:
*Sicrhau bod adnodd digonol gan y Cynulliad i ddatblygu, drafftio a sgrwitineiddio deddfwriaeth mor effeithiol ag sy'n bosibl.
*Byddwn yn galw ar yr holl bleidiau i ddatblygu rhaglenni polisi sy’n gwneud y gorau o’r cyfleoedd mae’r ddeddf yn cynnig.
*Byddwn yn galw ar gymunedau, gymunedau ffydd a sefydliadau Cymru i fewnbynnu a chyfrannu i’r broses eithriadol hon yn natblygiad gwleidyddol a deddfwriaethol Cymru.

Mae Cymru Yfory'n gweithredu rhaglen o weithgaredd ar gyfer y flwyddyn nesaf eisoes, yn benodol trafod y trefniadau newydd hyn gyda chymdeithas sifil ar hyd a lled Cymru. Rydym eisiau sicrhau bod lefel eang o ddealltwriaeth ynglŷn â’r newidiadau hyn a’u heffaith, ac yn benodol eisiau annog mwy o bobl a sefydliadau i ymgymryd yn y broses bolisi yng Nghymru.

Nodiadau i olygwyr:

Aelodau'r Gweithgor;
Mr Siôn Brynach M.Litt Oxon
Mr Deian Creunant
Mr Cynog Dafis
Mr Gerald Davies
Parch Aled Edwards OBE
Ms Philippa Ford
Mr Michael German OBE AM
Mr Milwyn Jarman QC
Mr Saleem Kidwai OBE
Mr David Lambert
Mr Gethin Lewis
Lord Richard Livsey of Talgarth
Ms Katie-Jo Luxton
Mr David Melding AM
Parchedicaf Ddr Barry Morgan
Lord Elystan Morgan
Mr Jon Owen Jones
Mr Paul O'Shea
Mr Mike Ponton
Mr Peter Price
Most Rev Peter Smith Archbishop of Cardiff
Mr Geraint Talfan Davies
Mr Alan Trench
Mr Paul Valerio
Parch Gethin Abraham Williams

DIWEDD
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Dr.Non Gwilym ar 07779 645599.

 

09.05.06
Gwelliannau Cymru Yfory

Mae Cymru Yfory wedi paratoi cyfres o welliannau i Fesur Cymru sydd ar ei thaith trwy San Steffan ar hyn o bryd. Y nod yw gwella'r modd y llywodraethir Cymru trwy sicrhau bod gan y Cynulliad y grym i reoli yn effeithiol.
Gellir gweld y 26 o welliannau a ddrafftiwyd gan Cymru Yfory yma

 

19.04.06
Cymru Yfory yn cynnig gwelliannau
Heddiw, mae Archesgob Cymru yn ymweld â Thŷ'r Arglwyddi i fynychu dadl Cyfnod Pwyllgor yr Arglwyddi ar Fesur Cymru. Mae ei bresenoldeb yno'n brawf o ymrwymiad Cymru Yfory i'r gyfres o welliannau a gynigwyd gan y mudiad er mwyn llunio fframwaith priodol ac effeithiol i lywodraethu Cymru - y nod nawr yw sicrhau cefnogaeth Arglwyddi i'w cyflwyno gerbron y Tŷ.

Mae Cymru Yfory - mudiad a sefydlwyd gan Archesgob Barry Morgan yng Ngorffennaf 2004 i hyrwyddo argymhellion Comisiwn Richard - wedi paratoi cyfres o welliannau i Fesur Cymru sydd ar ei thaith trwy San Steffan ar hyn o bryd. Y nod yw gwella'r modd y llywodraethir Cymru trwy sicrhau bod gan y Cynulliad y pwerau mae’n haeddu, a’r grymoedd i reoli yn effeithiol. 

Ymhlith y 26 o welliannau a ddrafftiwyd gan Cymru Yfory, mae’r mudiad yn galw am amserlen benodol ar gyfer Refferendwm ar bwerau cynradd. Roedd Comisiwn Richard yn argymell amserlen o’r fath, ac mae Cymru Yfory yn gwbl gefnogol i hynny. Mae Cymru’n haeddu hyn.

Yn siarad heddiw, dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Dr Barry Morgan:

“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y ddadl ar y mesur. Mae Cymru Yfory wedi ystyried manylion y Mesur a chwilfrydedd. Mae’r Gweithgor wedi cyd-weithio’n agos ar ein cynigion, ac yn trafod â’r Arglwyddi i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru. 

Yn ogystal â galw am amserlen ar gyfer refferendwm, rydym hefyd yngobeithio sicrhau cefnogaeth i gynyddu nifer yr aelodau i 80 pan fydd y Cynulliad yn troi’n Senedd â phwerau deddfu cynradd, ag i’r egwyddor o gyfranoldeb wrth eu hethol. Mae perygl y bydd trafodaeth ar y system etholiadol yn dominyddu’r ddadl, ond gobeithio cawn gryn gefnogaeth i’r egwyddorion o 80 aelod a chyfranoldeb. 

Yn ogystal â galw am amserlen benodol i gynnal refferendwm, rydym hefyd yn gofidio am y diffyg eglurder ynglŷn ag ystod pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn benodol, y pwerau i ganiatáu neu wrthod cais gan y Cynulliad am Orchymyn mewn Cyngor. 

Ystyriwyd y materion hyn yn eu cyfanrwydd gan Adroddiad Comisiwn Richard. Nid ydym yn cytuno mai dyma ddiwedd y ddadl am genhedlaeth. Mae Cymru Yfory'n parhau'n driw i argymhellion Comisiwn Richard ac yn galw am bwerau deddfu cynradd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym yn gwahodd eraill i ymuno â ni i hyrwyddo'r agenda hon.

DIWEDD Mercher 19 Ebrill 2006
Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â
Dr Non Gwilym ar 07779 645599
 


Digwyddiadau
5 Mehefin 2007
Agoriad Brenhinol y Trydydd Cynulliad
 

3 Mai 2007
Etholiad Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

20 Tachwedd 2006
"Yfory'r Cynulliad" Cynhadledd Cymru Yfory, Caerdydd
 

*
*
*
Site by Innivo
*