Yn dilyn argymhellion positif a diamheuol adroddiad y Confensiwn Cymru Gyfan o blaid rhoi pwerau deddfu go-iawn i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae gan Cymru Yfory gynlluniau i ehangu ei weithgareddau ac adeiladu momentwm mewn cefnogaeth o bleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm ar bwerau deddfu go-iawn i’r Cynulliad. Mae Cymru Yfory yn gorff aml-bleidiol, traws-sector, aml-ffydd sy'n dod ag ystod eang o unigolion ynghŷd, sy'n weithgar yng nghymdeithas sifil Cymru. Cymerwch gip ar ein gwefan, lle gallwch ddarllen ein blog a chael gafael ar wybodaeth a deunydd ynglŷn â’r broses ddatganoli yng Nghymru. Os ydych chi’n credu y dylai'r Cynulliad gael yr offer i wneud ei waith yn iawn, yna gallwch ymaelodi â Chymru Yfory, ac arwyddo ein Datganiad dros Ddemocratiaeth Gymreig.
Mae'r llofnodwyr yn cynnwys Cadeirydd Cymru Yfory, Barry Morgan, Archesgob Cymru, a Saleem Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru; y Llewod Gerald Davies a Jamie Roberts a’r nofiwr David Davies; dau o Feirdd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a Gwyneth Lewis; a’r actor Mathew Rhys. Mae'r cerddor Gruff Rhys a'r DJ Huw Stephens hefyd wedi cefnogi'r Datganiad.
Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio ‘Ie’ mewn pleidlais hanesyddol ar refferendwm
09.02.10
Mae Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad.
... Mwy
Consensws Traws-bleidiol yn Newyddion Gwych meddai Cymru Yfory
08.02.10
Mae’r cytundeb traws-bleidiol yn y ‘bleidlais driger’ ynghylch refferendwm ar bwerau deddfu go-iawn yn newyddion gwych, meddai Cymru Yfory.
... Mwy