*
*
 
 
*
*
Y Cynulliad Cenedlaethol ar ei Newydd Wedd: Dysgu o Brofiad

Cynadleddau Undydd

Dydd Llun 13 Gorffennaf, Venue Cymru, Llandudno 
Dydd Iau 16 Gorffennaf, Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd
  

Yng Ngorffennaf 2007, cyhoeddodd Cymru Yfory y llawlyfr ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ei newydd wedd - canllaw’r’. Mae’r llawlyfr yn parhau i fod yn adnodd gwybodaeth unigryw, yn darparu ‘canllaw lleygwr’ i sut mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio, gan alluogi pobl gyffredin i ddeall sut mae eu Cynulliad yn gweithio a sut allant ymwneud ag o a dylanwadu ar ei benderfyniadau.

Ddwy flynedd wedi i’r setliad datganoli presennol ddod i rym, mae Cymru Yfory yn bwriadu diweddaru’r llawlyfr, ac rydym wedi bod yn ffodus i sicrhau cefnogaeth y Gronfa Loteri Fawr i wneud hynny.  

Bydd y ddwy gynhadledd “Dysgu o Brofiad Wedi Dwy Flynedd” yn gweld cyfranwyr sydd wedi cael profiad uniongyrchol o sut mae’r Cynulliad wedi gweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn rhannu eu profiadau ac arsylwadau, gan ddarparu cyfle dysgu gwerthfawr i’r rhai sydd am ddysgu mwy ynghylch sut mae’r Cynulliad yn gweithio a sut mae pwerau a gweithdrefnau'r Cynulliad wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Bydd cyfraniadau i’r cynadleddau yn bwydo i mewn i fersiwn newydd o’r Canllaw Cynulliad.  


CYFLWYNIADAU'R GYNHADLEDD

Yn dilyn y cynadleddau, rydym wedi derbyn sawl cais i'r cyflwyniadau fod ar gael ar-lein.

Isod gellir lawrlwytho y pedwar cyflwyniad a wnaethpwyd yn y ddwy gynhadledd.

The New National Assembly for Wales: Lessons from the First Two Years

Keith Bush, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad Cenedlaethol

The Assembly’s New Processes and how Civil Society has Responded
Geraint Talfan Davies, Cadeirydd yr IWA

From Theory to Practice: how Quasi-legislative Devolution Actually Operates          
Marie Navarro, Ysgol y Gyfraith Caerdydd 

The View from the Voluntary Sector
Jennifer Bradbury a Michelle Matheron, WCVA Lleisiau dros Newid


CANLLAW'R LLEYGWYR

Roedd y cynadleddau o fudd mawr wrth gasglu profiadau ac awgrymiadau a fydd o gymorth i ni wrth ddiweddaru Canllaw'r Lleygwyr.

Rydym yn parhau i groesawu awgrymiadau ac adborth: os oes gennych unrhyw syniadau ebostiwch ni ar cymruyfory@stratamatrix.co.uk




*
*
*
Site by Innivo
*